Cyngor Cymuned Llanbadarn

Gorau Gorchwyl Gwarchod

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr

Mae’r Cyngor Cymuned yn cynrychioli pawb sy’n byw, gweithio ac astudio yn Llanbadarn trwy ei bymtheg aelod etholedig, ac wedi’i rannu’n ddwy ward – Padarn a Sulien.

Fel yr haen gyntaf o lywodraeth, rydym yn delio’n bennaf â materion lleol gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau lleol megis cysgodfannau bysiau, mannau chwarae a chaeau chwarae. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos â’r Heddlu i leihau trosedd a gwella diogelwch yn y gymuned. Fel ymgynghorwyr yr holl geisiadau cynllunio yn lleol, mae gennym ran bwysig i’w chwarae wrth lunio dyfodol ein cymuned.

Mae cyfarfodydd llawn y Cyngor ar agor i’r cyhoedd ac fe’u cynhelir ar yr ail ddydd Llun o bob mis ar wahân i fis Awst. Mae’r Cyngor yn cyfarfod ar-lein ar hyn o bryd. Cysylltwch â’r Clerc i drefnu cael dolen ar gyfer cyfarfod.

Gyda’i hanes hynafol y mae llawer o drigolion y fro yn meddwl am Lanbadarn ond fel pentref.

Serch hynny y mae gan y Cyngor Cymuned gyfrifoldeb dros ardal eithaf eang o gwmpas yr ‘hen bentref’. O gofio’r fryngaer a adnabyddwn heddiw fel Pen Dinas gwyddom fod pobl wedi byw yn y parthau hyn mor bell yn ôl â’r Oes Efydd. Yn bell ar ôl hynny, tua’r flwyddyn 517 OC, credir i Lydäwr, Padarn, a dau gefnder iddo (Cadfan a Tydecho) hwylio i’r arfordir cyfagos, o bosib i’r lan o gwmpas lle y saif y ‘pier’ a’r Hen Goleg yn Aberystwyth heddiw – Pwll Padarn yw’r hen enw ar y fan honno. Gwr o dras oedd Padarn (neu ‘Paternus’ yn Llydaweg), yntau’n wyr i Emyr Llydaw, un o arweinwyr amlwg Llydaw. Yr oedd y Llydawiaid cyntaf yn frodorion o Gymru ac o Gernyw a bu perthynas agos rhwng y Celtiaid hyn i gyd yn Oes y Saint.

Heb os, gadawodd Padarn ei ôl ar y fro hon ac ar ardal ehangach. Sefydlodd gymuned o fynaich a thros y canrifoedd bu i’r mynachdy ddatblygu’n ganolfan dra phwysig. Erbyn yr 11eg ganrif, yr oedd yma, yn y lle a ddaeth yn ‘Llanbadarn Fawr’ (sef, ‘prif eglwys a gysegrwyd i Badarn’), dan Abad Sulien, lyfrgell a oedd yn fwy na’r llyfrgell yng Nghaergaint neu yn Efrog. Yr oedd sgriptoriwm mawr yma hefyd. Ychydig o’i lawysgrifau sydd wedi goroesi ond y mae un, Llaswyr Rhygyfarch (un o feibion Sulien oedd Rhygyfarch), yn awr yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Y mae enw Padarn yn amlwg yn ardal Llanbadarn ac yn ardal Aberystwyth hefyd. Fe’i defnyddir fel rhan o enwau tai a thiroedd ac fel rhan o enwau busnesau lleol. Dylid dweud hefyd fod yna fwy nag un Llanbadarn – y mae, er enghraifft, Llanbadarn Fynydd (pentref ym Mhowys) a Llanbadarn Trefeglwys (eglwys ger Pennant). Yn wreiddiol, Llanbadarn Gaerog oedd yr enw a roddwyd ar y dreflan a oedd wedi tyfu o gwmpas muriau Castell Aberystwyth.